Gofal cartref rhagorol i chi neu rywun annwyl.
Gofal yng Ngogledd Cymru
Cymorth wedi’i deilwra i’ch bywyd.
Rydym yn cynnig gofal seibiant, gofal i’r henoed, gofal dementia a gofal cartref ar gyfer:
-
Pob grŵp oedran – o blant sâl i’r henoed
-
Cleifion sy’n dioddef o glefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia
-
Pobl ag anableddau deallusol a chorfforol
-
Pobl sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth
-
Pobl sydd angen gofal lliniarol
-
Pobl sydd angen cymorth gyda thasgau yn y cartref
-
Cymorth personol yn y cartref
Ein gwasanaethau gofal
-
Gofal Cartref
Mae Gwasanaeth Gofal Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth gofal proffesiynol sy’n cael ei ddarparu i oedolion ac i blant yn eu cartrefi eu hunain. Fe fydd y gwasanaeth hwn, sy’n cael ei ddarparu gan Weithwyr Gofal proffesiynol, yn golygu bod yr un sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael gwneud beth bynnag fedrant ar gyfer eu hunain, ac yn darparu cymorth gyda’r tasgau neu weithgareddau eraill bob dydd y byddwn yn aml yn eu cymryd yn ganiataol.
-
Gofal Iechyd yn y Cartref
Mae Gofal Iechyd yn y Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth proffesiynol wedi’i arwain gan nyrs, sy’n cael ei ddarparu i oedolion a phlant yn eu cartrefi eu hunain, gan dîm o Gynorthwywyr Gofal Iechyd. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu popeth sy’n hanfodol ar gyfer gofal, o gefnogi anghenion sylfaenol iawn y cleient hyd at gyflawni’r tasgau a’r dyletswyddau hynny mae angen gwasanaeth gofal arbennig ar eu cyfer.
This help was invaluable to us both, those who were with us on a regular basis, who gave support & compassion which could not be measured.