Gofal a chymorth yn y cartref i bobl â dementia.
Gofal Dementia
Pan fydd aelod o’ch teulu’n dioddef o ddementia, gall y syniad o ddarparu gofal fod yn anodd iawn wrth geisio ymdopi â gwaith ac ymrwymiadau teuluol eraill.
Mae Gofal Dementia yn y Cartref Cymorth Llaw yn darparu gwasanaeth penodol a chyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n dioddef o ddementia.
Gan weithio gyda’r unigolyn a’i deulu, mae’r gwasanaeth pwrpasol hwn yn canolbwyntio’n llwyr ar ddarparu gofal sy’n dangos dealltwriaeth o’r unigolyn a’i gyflwr.
Mae’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn hybu mwy o annibyniaeth ac yn cynnwys yr unigolyn yn ei ofal ei hun lle bo modd, gan ei alluogi i fyw ac aros yn amgylchedd cyfarwydd ei gartref cyn hired â phosibl.
Mae ein holl Weithwyr Gofal proffesiynol yn cael hyfforddiant mewn dementia fel rhan o raglen datblygu sgiliau ein cwmni. Mae hyn yn caniatáu i’n Gweithwyr Gofal ddeall yr unigolion yn well a sut gall dementia fel cyflwr fod yn effeithio arnyn nhw, o’u safbwynt personol.
Mae ein Gweithwyr Gofal wedi’u hyfforddi i:
-
Darparu gofal, cymorth a chefnogaeth
-
Cynnal amgylchedd diogel
-
Darparu gweithgareddau sy’n ysgogi’r meddwl
-
Creu cyfleoedd i gymdeithasu a darparu cwmnïaeth
-
Darparu prydau bwyd maethlon
-
Goruchwylio a chynorthwyo gyda gweithgareddau
-
Sicrhau canlyniadau cadarnhaol
Mwy o wybodaeth am ddementia
This help was invaluable to us both, those who were with us on a regular basis, who gave support & compassion which could not be measured.