Gofal arbenigol. Amgylchedd cyfarwydd.
Gofal Iechyd yn y Cartref
Gan ddarparu ar gyfer ystod eang o bobl ag anghenion iechyd amrywiol, mae’r gwasanaeth hwn yn hwyluso trosglwyddiad llyfn o ofal yn yr ysbyty i ofal yn y cartref, gan ddarparu gofal cyson wedi’i deilwra i anghenion unigol.
Gan weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o gomisiynwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, rydym yn darparu pecynnau gofal hyblyg a chost-effeithiol sy’n cefnogi pob defnyddiwr gwasanaeth i fyw’r bywyd annibynnol o’i ddewis, drwy ofal diogel o safon yn y cartref.
-
Sut rydym yn helpu
Drwy dîm o weithwyr gofal proffesiynol, rydym yn cefnogi cleientiaid gyda:
- Cymorth anadlu yn y cartref
- Rhoi meddyginiaeth
- Rheoli ymataliaeth
- Bwydo drwy diwbiau
- Rheoli symptomau
-
Profiad ar draws ystod eang o anghenion
Mae gennym brofiad helaeth o ddarparu gofal cymhleth yn y meysydd canlynol:
- Gofal Dibyniaeth Uchel yn y Cartref
- Gofal i bobl gyda chyflyrau Niwrolegol
- Gofal i bobl gydag Anafiadau i’r Cefn
- Gofal i bobl sydd wedi Cael Niwed i’r Ymennydd
- Anaf trychinebus
- Anaf personol
- Clefyd niwronau motor
- Sglerosis ymledol
- Parlys yr ymennydd
- Clefyd Huntington
- Dystroffi’r cyhyrau
- Diabetes
- Strôc
- Gofal traceostomi
- Cymorth anadlu
- Gofal Lliniarol
Ansawdd clinigol, bob cam o’r ffordd.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan ddarparwr gofal blaenllaw, mae ansawdd clinigol y gwasanaeth hwn wedi’i warantu. Mae’r holl staff sy’n gweithio i’r gwasanaeth hwn wedi cael hyfforddiant arbenigol ac yn gymwys i wneud y gwaith sydd ei angen, i ateb eich angen chi am ofal.
Mae rheolaeth gofal benodol, recriwtio staff, hyfforddi a datblygu’r gweithlu a gwasanaethau gweinyddol eraill yn ychwanegu gwerth pellach at yr holl wasanaethau rydym yn eu cynnig.
Os hoffech drafod y posibilrwydd o gomisiynu gwasanaeth Gofal Iechyd yn y Cartref Cymorth Llaw, ffoniwch ni heddiw ar 01248 679922.
I would be grateful if you could personally thank on my behalf each and every member of staff for their services administering care and comfort to my aunt during her illness. They worked effectively and efficiently, displaying kindness and compassion. With out doubt whatsoever, you have first-rate staff.