Gweithio yn Cymorth Llaw
Gweithio gyda ni
Fe fyddwn ni yn Cymorth Llaw yn ofalus iawn sut byddwn yn cyflogi Gweithwyr Gofal. Dim ond y bobl leol orau fyddwn ni’n eu cyflogi, pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd ni ac yn credu, fel ni, mewn gofal.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa ar gyflogaeth tymor hir, yr oriau gwaith wythnosol maent yn eu dymuno, incwm diogel a chyson, rhaglen hyfforddi gyda’r holl gostau wedi’u talu a chefnogaeth i staff 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
-
Meini prawf dethol
Er bod profiad a chymwysterau Gofal Cymdeithasol blaenorol yn ddymunol, nid oes gofynion cymwysterau mynediad sylfaenol penodol ar gyfer swyddi Gweithwyr Gofal gyda Chymorth Llaw Cyf. Rhaid i ymgeiswyr allu gyrru, a bydd pob ymgeisydd yn cwblhau gwiriad manylach o gofnodion troseddol (gwiriad DBS), ynghyd â nifer o wiriadau geirda a chyflogaeth eraill cyn dechrau gweithio.
-
Hysbysiadau swyddi
Mae hysbysiadau swyddi ar gael isod ar y dudalen hon, ar ein ffrwd Twitter a’n tudalen Facebook, yn ogystal â thrwy Universal Jobs Match a chyfryngau eraill.
Mae modd gwneud cais trwy ffonio’r ddesg recriwtio ar 01248 679922 i gael mwy o wybodaeth.
Rôl Gweithiwr Gofal
Mae rôl Gweithiwr Gofal yn rhoi boddhad mawr a gall gynnwys helpu a chefnogi pobl yn eu cartrefi gyda:
- Ymolchi, gwisgo, trin gwallt a choluro neu eillio
- Cymorth gyda gofal personol
- Atgoffa am feddyginiaeth a’i rheoli
- Cymorth yn ystod y nos
- Cynllunio, siopa a choginio prydau bwyd
- Gwaith tŷ ysgafn
- Golchi dillad a smwddio
- Symudedd neu ddiogelwch personol
- Gwaith gweinyddol personol a chymorth i dalu biliau
- Trefnu apwyntiadau personol
- Gwibdeithiau allan o’r cartref
- Cadw cwmni a chynnig cefnogaeth emosiynol
- Rhoi tawelwch meddwl i’r cleient ac aelodau’r teulu
Our lives have been made more comfortable and bearable as a result of the carer’s visits on a regular basis. Indeed some have become good friends as well as carers. Suggestions for improvements are more difficult as their care and attention rivals those of District Nurses.