Amdanom Ni
Ein Hanes Ni
Sefydlwyd y cwmni gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Janice Hogg, a arferai fod yn nyrs, gan ddechrau mewn swyddfa fechan yn ein cartref gydag ond ychydig o Weithwyr Gofal.
Erbyn hyn, rydym wedi ein lleoli mewn Prif Swyddfa a Chanolfan Hyfforddi Gofalwyr Iechyd bwrpasol ym Mangor, Gwynedd. Mae’r cwmni wedi tyfu mewn maint a statws ac rydym bellach yn un o ddarparwyr gwasanaethau gofal cartref mwyaf a mwyaf adnabyddus yr ardal.
Mae ein hanes yn un rydym yn falch iawn o allu ei hadrodd a’r un yw ein nod yn awr ag yr oedd yn y dechrau ac felly y bydd hi am byth, sef rhoi Gofal Cartref o’r ansawdd rydych yn ei haeddu i chi a pharhau i Wneud Gwahaniaeth i Fywydau Pobl.
-
Mai 2000
Sefydlwyd gan Janice Hogg
-
60+ mlynedd
Profiad cyfunol yr uwch dîm ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
-
Parc Menai, Bangor
Ein prif swyddfa a’n canolfan hyfforddi
Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw ein cefndir
Dros y blynyddoedd, mae ein henw da wedi cynyddu i’r fath raddau nes bod llawer o weithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymddiried yn ein gallu i sicrhau rhagoriaeth mewn gofal dro ar ôl tro.
Drwy ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu ein gweithlu a thrwy fabwysiadu agwedd at ofal sy’n rhoi lle canolog i’r defnyddiwr gwasanaeth ym mhob peth a wnawn, dros amser rydym wedi ennill enw arbennig o dda i’n hunain ar sail y gwasanaethau gofal cartref rydym yn eu darparu ar gyfer pobl yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Mae ein datganiad o ddiben ar gael i’w weld yn ein prif swyddfa ar gais.
Ein Gwerthoedd:
-
Ymroddiad
-
Didwylledd
-
Cyfrifoldeb Personol
-
Parch
-
Ymdrechu at ragoriaeth
-
Grymuso Pobl
-
Gweledigaeth
-
Diben
To all at Cymorth Llaw, words fail me when it comes to thanking you enough for all the TLC and attention you gave me all the months you were here.