Gofal safonol ledled Gogledd Orllewin Cymru.
Cyflogi’r bobl leol orau i ddarparu’r gofal lleol gorau
Rydym yn cyflogi pobl leol, broffesiynol sydd â sgiliau amrywiol a niferus a phrofiad eang o ddiwallu eich anghenion gofal.
Mae ein staff i gyd yn cwblhau proses ddethol a dilysu drwyadl cyn i ni eu cyflogi, gan gynnwys cwblhau archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ymrwymiad i Ragoriaeth mewn Gofal
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu gwasanaeth gofal proffesiynol i chi, a gyflwynir gan weithlu dwyieithog sydd wedi’i hyfforddi i safon uchel ac sy’n llawn cymhelliant.
-
Datblygu’r Gweithlu
Rydym yn buddsoddi llawer iawn mewn hyfforddi, datblygu a chefnogi ein Gweithwyr Gofal. Heb unrhyw gost i’n staff, rydym yn darparu i’n Gweithwyr Gofal yr hyfforddiant, y wybodaeth a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen er mwyn cyflwyno gofal cartref o safon uchel.
-
Amgylchedd Dysgu
Mae ein hyfforddiant ni i gyd yn cael ei gynnal o’n Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal sydd wedi’i hadeiladu i bwrpas ac wedi ennill gwobrau. Mae wedi’i lleoli ar Barc Busnes Parc Menai ym Mangor, Gwynedd. Mae’r cyfleuster hwn yn gartref hefyd i’n rhaglen Gweithwyr Gofal Ifanc hynod lwyddiannus – Cadetiaid Gofal.
-
Arwain o’r blaen
Rydym yn cyflogi Rheolwyr Gwasanaethau Gofal sy’n hynod weithgar yn y gymuned ac sy’n gwerthuso eich anghenion gofal yn gyson. Mae ein rheolwyr yn hynod brofiadol, yn wybodus ac yn deall gofynion unigol yn llawn wrth gynllunio eich pecyn gofal pwrpasol.
-
Gallu Gofalu
Ledled y rhanbarth, rydym yn cyflogi gweithlu o fwy na 200 o Weithwyr Gofal brwd sydd wedi derbyn hyfforddiant i safon uchel, ac rydym yn parhau i ehangu. Rydym yn gallu cynnig gyrfa tymor hir i’n staff mewn gwaith Gofal Cymdeithasol, gyda’r oriau gwaith maent eu hangen, drwy gyflogaeth sy’n hyblyg ac yn barhaol – gan roi i chi’r gwasanaeth cysondeb gofal y mae arnoch ei angen.
Enw da am ansawdd a dibynadwyedd
Rydym yn cael ein cydnabod fel arweinwyr ym maes Gofal yn y Cartref ledled Gogledd Cymru ac yn cael adroddiadau arolygu eithriadol dda yn gyson.
Rydym yn ddarparwr gwasanaeth cymeradwy i Awdurdodau Lleol Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy ac i Fyrddau Iechyd Lleol. Byddwn yn gweithio’n agos â llawer o gomisiynwyr gwasanaethau gofal eraill, gan gyflwyno llawer o oriau o ofal ledled y rhanbarth. Rydym yn darparu gwasanaethau i gasgliad mawr, amrywiol ac eang o gleientiaid preifat drwy gyfrwng gwasanaeth sy’n hynod ymatebol ac yn benodol i angen.
Rydym wedi cofrestru gydag AGGCC fel Asiantaeth Gofal Cartref a Nyrsio. Rydym yn aelod o UKHCA ac rydym yn cael ein cydnabod hefyd fel Buddsoddwyr mewn Pobl.
We have had great help since my husbands return from hospital and I have nothing but praise for the carers who come here. We value their help understanding and friendship very much.