Mae gofal o safon yn dechrau gyda hyfforddiant o safon.
Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal
O’n Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal ym Mangor, Gwynedd, sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol ac wedi ennill gwobrau, rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’r bobl rydym yn gofalu amdanynt, yn eu helpu ac yn eu cefnogi yn eu cartrefi.
Ar ôl dal statws Buddsoddwyr mewn Pobl ac Arweinyddiaeth mewn Rheolaeth ers dros 13 mlynedd, mae gweithwyr Cymorth Llaw yn elwa ar amgylchedd dysgu pwrpasol lle gallant gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i’w swyddi a chanolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i ddarparu gofal o safon yn y cartref.
Hyfforddi a Datblygu Gweithwyr Gofal
Mae hyfforddiant gyda Chymorth Llaw yn orfodol o dan delerau ac amodau cyflogaeth. Mae’r cwmni hefyd yn cefnogi ei weithlu rheng flaen i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, sy’n orfodol ar ôl 6 mis o gyflogaeth.
Mae pob gweithiwr sy’n gweithio mewn rôl gofal uniongyrchol (Gweithwyr Gofal) yn cwblhau hyfforddiant safonau sefydlu cyffredin o’r safon uchaf bosibl, yn unol â Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Cwblheir hyn drwy hyfforddiant ardystiedig neu ddyfarniadau dysgu.
Mae Gweithwyr Gofal yn cwblhau rhaglen hyfforddi fewnol sydd wedi’i chynllunio’n benodol ac sy’n berthnasol i’w rôl. Caiff staff gefnogaeth a phob cyfle i ddilyn cymwysterau proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diplomâu lefelau 2, 3 ac uwch). Mae staff yn ennill cymwysterau lefel diploma wrth weithio.
Mae gweithwyr Cymorth Llaw yn derbyn hyfforddiant sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i gyrraedd y safonau gofynnol cenedlaethol. Mae staff hefyd yn derbyn hyfforddiant pellach, ychwanegol ac arbenigol, gan eu helpu i fod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru.
Pynciau hyfforddi
Mae’r holl hyfforddiant a ddarperir yn benodol i’r swydd ac yn gysylltiedig â’r Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae ein rhaglen hyfforddi’n cynnwys:
-
Hyfforddiant Cyflwyniad i’r Gwaith a Hyfforddiant Ymarferol mewn Gofal, mewn Swyddfa
-
Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
-
Cyflwyniad i’r Gwaith, yn y Gymuned
-
Dilyn a Sylwi ar Weithwyr eraill, yn y Gymuned
-
Pasbort Codi a Thrin Cymru Gyfan (cwrs dau ddiwrnod)
-
Materion Sylfaenol Gofal, yn cynnwys rôl y gweithiwr gofal
-
Cyfathrebu, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chanolbwyntio ar y person wrth weithredu
-
Hyfforddiant Cymraeg – dechreuwyr a magu hyder
-
Diogelu oedolion sy’n agored i niwed
-
Hyfforddiant Makaton
-
Cefnogi pobl ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth
-
PECS
-
Ymwybyddiaeth o ailalluogi
-
Hyfforddiant dianc o afael
-
Gofal Personol
-
Rheoli Haint
-
Cymorth Cyntaf
-
Diogelwch Bwyd Sylfaenol
-
Ymwybyddiaeth o Foddion
-
Iechyd a diogelwch
-
Ymwybyddiaeth tân
-
Ymwybyddiaeth dementia
-
Ymwybyddiaeth cathetr a stoma
-
Gofal a diogelwch Peg
-
Urddas a Pharch
-
Gofal Lliniarol
-
QCF Iechyd a Gofal Cymdeithasol (amrywiol)
-
Hyfforddiant gofal pellach a/neu arbenigol
This help was invaluable to us both, those who were with us on a regular basis, who gave support & compassion which could not be measured.