Cymorth bob dydd. Mwy o annibyniaeth.
Gofal Cartref
Fe fydd y gwasanaeth hwn, sy’n cael ei ddarparu gan Weithwyr Gofal proffesiynol, yn golygu bod yr un sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael gwneud beth bynnag fedrant ar gyfer eu hunain, ac yn darparu cymorth gyda’r tasgau neu weithgareddau eraill bob dydd y byddwn yn aml yn eu cymryd yn ganiataol.
Mae’r gwasanaeth Gofal Cartref rydym ni’n ei ddarparu yn bersonol, yn hyblyg ac yn ymarferol, ac yn gallu cynnwys:
-
Gofal Personol
- Cymorth i ymolchi, cael bath neu gawod
- Cymorth i ddefnyddio’r toiled
- Mynd i’r gwely a chodi o’r gwely
- Cymorth i fwyta
- Gofal gwallt
- Hylendid y geg a hylendid cyffredinol
- Cwmnïaeth, gwasanaeth eistedd i mewn a chymorth cymdeithasol
- Cefnogaeth gyda Chymryd Moddion
- Gwasanaethau Dyletswydd Nos, Effro a Chysgu
- Pecynnau gofal tymor byr/tymor hir
- Gofal Dementia Penodol
- Gofal ar ôl llawdriniaeth
-
Gofal domestig
- Cymorth yn y cartref
- Cymorth gyda’r golch
- Gwaith Cadw Tŷ ysgafn a Gwaith Tŷ Ymarferol
- Smwddio
- Paratoi Prydau Bwyd
- Siopa
- Casglu pensiynau a phresgripsiynau
-
Gofal arall
- Gofal Gwyliau
- Gofal Seibiant
- Gwasanaeth Cadw Cwmni ac Eistedd i Mewn
Gofal ailalluogi
Drwy ein gwasanaeth ailalluogi, rydym yn darparu gofal a chymorth i bobl a allai fod yn dychwelyd adref o’r ysbyty ac sydd angen cymorth tymor byr.
Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio i ddileu dibyniaeth ac annog yr unigolyn i gymryd cymaint o ran â phosibl yn ei ofal ei hun.
Yn amgylchedd cyfarwydd y cartref, dros gyfnod o 6 wythnos, mae ein gwasanaeth ailalluogi yn cefnogi pobl gyda’r tasgau personol neu’r gweithgareddau hynny y gallent eu cael yn fwyaf anodd ar ôl anaf, gan eu helpu i adennill sgiliau bob dydd a hyrwyddo annibyniaeth ymhellach.
Fel rhan o’n rhaglen hyfforddi sylfaenol i Weithwyr Gofal, rydym yn darparu hyfforddiant ailalluogi i bob aelod o staff o’r cyfnod sefydlu ymlaen, gan ymgorffori ethos ailalluogi ym mhob agwedd ar ddarparu’r gwasanaeth.
To all at Cymorth Llaw, words fail me when it comes to thanking you enough for all the TLC and attention you gave me all the months you were here.