Gorffwys yn dawel, Lynne
Gyda thristwch mawr a gofid dwfn y mae Cymorth Llaw yn hysbysu ein gweithlu, defnyddwyr gwasanaeth, ffrindiau a’n teulu gofal estynedig am farwolaeth ein cydweithwraig Lynne Edwards.
Bu farw Lynne ddydd Sul 29 Mai 2016, a bydd pawb oedd yn ei hadnabod yn gweld ei heisiau’n fawr.
Roedd ein ffrind annwyl Lynne yn ddoniol, yn gwbl ymroddedig ac yn hynod weithgar, a chwaraeodd ran enfawr yn ein teulu Cymorth Llaw. Roedd pawb oedd yn ei hadnabod yn ei pharchu ac yn ei charu.
Mae ein cydymdeimlad diffuant, ein meddyliau a’n gweddïau gyda Dylan a’r teulu ar yr adeg drist iawn hon.
Gorffwys yn dawel, Lynne.
Janice, Ken, Ian a Craig