Gwir Gost Gofal – BBC Week in Week Out, BBC Panorama
Datganiad –
Fel y mae llawer wedi gweld erbyn hyn, cymerodd Cymorth Llaw ran yn ddiweddar yn rhaglenni ymchwiliol y BBC Week in Week Out a Panorama, a ddarlledwyd ill dwy yn ystod oriau brig BBC 1 am 20:30, yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ddydd Llun 20 Mawrth.
Ymddangosodd Gweithwyr Gofal, Rheolwyr a Chyfarwyddwyr Cymorth Llaw ar ffilm i hysbysu’r cyhoedd am y materion a’r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu wrth weithio yn y farchnad gofal cartref preifat. Rhoddodd y ddwy raglen gipolwg realistig iawn ar fywyd ar reng flaen darparu gwasanaethau yn y diwydiant gofal cartref yn y Deyrnas Unedig heddiw.
Ymddangosodd Cyfarwyddwr y cwmni, Ken Hogg, hefyd ar BBC Breakfast a BBC Radio 5 Live, ac ymddangosodd y Sylfaenydd a’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Janice Hogg, ar BBC Radio Cymru.
Cafodd pob un o’r rhaglenni dderbyniad arbennig o dda.
Yn hanesyddol, nid yw Cymorth Llaw erioed wedi bod yn sefydliad sy’n ceisio sylw na chydnabyddiaeth am y gofal mae’n ei ddarparu.
Nod y cwmni o hyd yw darparu’r safon orau bosibl o ofal, cymorth a chefnogaeth, gan hefyd fod yn gyflogwr teg, rhesymol a chyfrifol i’r nifer fawr o bobl sy’n gweithio gyda ni.
Yn wir, mae ein sefydliad gofal wedi darparu gwasanaethau i oedolion a phlant yng Ngogledd Cymru ers 16 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi derbyn 16 o adroddiadau arolygu gwasanaeth rhagorol yn olynol, heb unrhyw argymhelliad o gwbl i wella’r gwasanaeth, gan y corff llywodraethu AGGCC – un am bob blwyddyn o ddarparu gwasanaethau.
Gyda hyn mewn golwg, ac ar gais y BBC, a oedd am weithio gyda darparwr gofal blaenllaw yng Nghymru i ymchwilio i ‘Wir Gost Gofal’, cytunodd Cymorth Llaw i gymryd rhan yn y rhaglenni er mwyn rhoi asesiad gonest ac agored o’r sector.
Ar ran cyfarwyddwyr Cymorth Llaw, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y rhaglenni. Dangosodd eich cyfraniadau i filiynau o bobl pa mor bwysig yw’r holl weithwyr gofal cartref ledled y wlad, a’r rôl hanfodol maent yn ei chwarae yn nyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Yn aml, ni roddir sylw i rôl gweithiwr gofal, neu caiff ei chamgyfleu. Teimlwn mai’r bobl yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu gwasanaethau hanfodol sy’n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi’n ddiogel ac ag urddas yw gwir arwyr gofal. Hoffai Cymorth Llaw achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn ddiffuant i chi i gyd am yr hyn rydych yn ei wneud.
Gobeithiwn y bydd ein cyfraniad bach yn helpu i godi ymwybyddiaeth a rhoi i ofal cartref y gydnabyddiaeth a’r statws rydym yn teimlo ei fod yn sicr yn eu haeddu.
Yng ngoleuni canfyddiadau’r rhaglenni, gofynnwn yn awr i’r bobl sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol ynghylch polisi a chyllido gwasanaethau gofal cartref roi mwy o ystyriaeth i’r ffeithiau a gyflwynwyd a myfyrio’n ddwys ar yr enghreifftiau a ddangoswyd yn y rhaglenni.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch am y cannoedd o negeseuon, negeseuon e-bost a galwadau ffôn o gefnogaeth gan bobl yn dymuno’n dda i ni, sylwebyddion cymdeithasol, gohebwyr a darlledwyr fel ei gilydd. Rydym yn teimlo’n ostyngedig ac yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i ysgrifennu, ei adrodd a’i ddweud am Gymorth Llaw yn ystod y dyddiau diwethaf.
Yn fwy na dim, diolch i bob unigolyn sy’n gwisgo ein gwisgoedd melyn ac sy’n parhau i ddarparu gofal eithriadol i lawer iawn o bobl yn eu cartrefi. Rydym wedi dweud hyn droeon o’r blaen – credwn mai chi yw’r bobl leol orau sy’n darparu’r gofal lleol gorau, a diolchwn i chi am wneud gwahaniaeth i gymaint o fywydau.
Craig Hogg
Cyfarwyddwr
http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b08kg6cx/week-in-week-out-the-real-cost-of-caring