Cymorth Llaw yn cymryd rhan yn rhaglen Week in Week Out y BBC
Fel y gŵyr llawer, mae gwasanaethau gofal cartref Cymorth Llaw yn ymfalchïo yn lefel a safon y gofal maent yn ei ddarparu i lawer o bobl agored i niwed sy’n byw yng Ngogledd Cymru.
Gyda hyn mewn golwg, ac ar gais BBC Cymru, cymerodd Cymorth Llaw ran yn ddiweddar yn rhaglenni ‘Week in Week Out’ a ‘Panorama’, a oedd yn ymchwilio i broblemau recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol yma yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ddydd Llun 20 Mawrth am 8:30 yr hwyr.
Ymddangosodd cyfarwyddwyr, rheolwyr a staff gofal Cymorth Llaw o flaen y camera i rannu eu meddyliau a’u barn, gan hefyd roi cipolwg ar fywyd go iawn yn rôl hanfodol gweithiwr gofal, yr heriau dyddiol maent yn eu hwynebu a’r safon wych o ofal y mae ein pobl ragorol yn gallu ei darparu i lawer o bobl yn eu cartrefi.
Bydd Cyfarwyddwr y cwmni, Ken Hogg, a’r Weithwraig Gofal, Amanda Hopewell, hefyd yn ymddangos ar raglen BBC Breakfast fore Llun, cyn i’r rhaglen gael ei darlledu nos Lun.
Y llynedd, derbyniodd Cymorth Llaw ei 16eg adroddiad arolygu gwasanaeth rhagorol yn olynol gan ein corff llywodraethu yng Nghymru, AGGCC – adroddiad a ddangosodd unwaith eto nad oedd angen unrhyw argymhellion o gwbl i wella’r gwasanaeth.
Gwyliwch BBC 1 Cymru ddydd Llun!