Datganiad am wasanaethau Cyngor Conwy
Rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau ar ran Cyngor Conwy
Mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i Gymorth Llaw ddod â’i berthynas darparu gwasanaethau gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy i ben, oherwydd y cyfyngiadau ariannol difrifol mae’r awdurdod yn eu hwynebu bellach.
Yn ystod y 14 mlynedd diwethaf o ddarparu gofal ar ran y cyngor, mae Cymorth Llaw wedi cynnal safon eithriadol o wasanaeth ac wedi tyfu i fod yn ddarparwr annibynnol mwyaf Gogledd Orllewin Cymru o wasanaethau gofal cartref, diolch i agwedd y cwmni at ansawdd, gwerth am arian, a gwasanaethau gofal diogel a chyson.
Mewn 15 mlynedd o ddarparu gwasanaethau, mae Cymorth Llaw wedi derbyn 15 o adroddiadau arolygu di-fai yn olynol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), heb un argymhelliad i wella’r gwasanaeth.
Mae Cymorth Llaw bob amser wedi rhoi pobl yn gyntaf, gan gynnwys y rhai rydym yn eu cyflogi a’r bobl rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol iddynt.
Er mwyn cynnal y safonau y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn eu disgwyl gan unrhyw ddarparwr gwasanaeth neu gyflogwr cyfrifol, a pharhau i gyflawni safon uchel iawn o ofal sy’n ddiogel ac yn addas at y diben o fewn fframwaith sicrhau ansawdd yr asiantaeth ei hun, mae Cymorth Llaw, yn anfoddog, wedi gwrthod gwahoddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy i barhau i ddarparu gofal ar ran yr awdurdod, ar ôl rhoi ystyriaeth faith a gofalus i’r gost fesul awr a gynigiwyd gan y cyngor.
Bydd Cymorth Llaw yn gweithio gydag unrhyw asiantaeth i sicrhau trosglwyddiad diogel o’r gwasanaeth i’r bobl y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt. Bydd yr asiantaeth yn parhau i ddarparu gwasanaethau i unigolion sy’n byw yn y sir nad yw eu gofal wedi’i gomisiynu gan y cyngor.
Bydd Cymorth Llaw yn parhau i ddarparu’r gofal lleol gorau drwy’r bobl leol orau, a byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Ngogledd Cymru.
Janice Hogg
Rheolwr Gyfarwyddwr RGN RM