16 yn olynol i Gymorth Llaw!
Adroddiad arolygu –
Yn ddiweddar, cafodd Cymorth Llaw ei arolygiad blynyddol o’i ddarpariaeth o wasanaethau Gofal Cartref gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), y corff llywodraethu sy’n rheoleiddio darpariaeth gwasanaethau gofal y genedl.
Cynhaliwyd yr arolygiad ar sail ymweliad a gyhoeddwyd ymlaen llaw ym mhrif swyddfa’r asiantaeth a’i Chanolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal ym Mharc Busnes Parc Menai ym Mangor. Arolygwyd yr asiantaeth o dan thema ‘ansawdd bywyd’.
Roedd yr adroddiad yn rhagorol ac, o ganlyniad, mae Cymorth Llaw bellach wedi derbyn 16 o adroddiadau arolygu yn olynol (un am bob blwyddyn o ddarparu gwasanaethau) heb fod angen unrhyw argymhellion o gwbl i wella’r gwasanaeth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, Craig Hogg: “Mae’n bleser mawr darllen bod AGGCC unwaith eto’n credu bod y gofal rydym yn ei gynnig yma yn Cymorth Llaw o safon uchel iawn.
“Gall pobl Gogledd Cymru fod yn hyderus y bydd Cymorth Llaw, fel asiantaeth, yn parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol iddynt hwy neu i’w hanwyliaid, gan ddarparu gofal amserol, wedi’i reoli’n briodol, sy’n canolbwyntio ar ansawdd ac yn diwallu eu hanghenion gofal uniongyrchol.
“Mae ein staff yn eithriadol ac mae safon yr hyfforddiant a’r gefnogaeth a ddarperir iddynt yn ddigymar. Teimlwn fod yr adroddiad hwn unwaith eto’n rhoi darlun gwirioneddol o safon y gwasanaeth rydym yn gallu ei gynnig i bobl.”
Ychwanegodd Craig: “Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen: nid ydym erioed wedi bod y math o gwmni sy’n cystadlu am bob gwobr gofal sydd ar gael; nid pethau felly sy’n ein hysgogi. Ond mae 16 mlynedd o ddarparu gwasanaethau gydag 16 o adroddiadau arolygu rhagorol yn dweud llawer.
“Byddwn bob amser yn ymdrechu i wella’r hyn rydym yn ei wneud, a byddwn bob amser yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion y rhai rydym yn gofalu amdanynt ac anghenion y bobl ragorol sy’n gwisgo ein gwisgoedd melyn.”
Y bobl leol orau yn darparu’r gofal lleol gorau ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob amser.
Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma:
http://cssiw.org.uk/docs/cssiw/report/inspection_reports/16811_4_e.pdf