Hyfforddiant

Cyrsiau Gofal Cartref a Chyrsiau Arbenigol

Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal

Yn Cymorth Llaw fe fyddwn ni’n buddsoddi’n drwm mewn hyfforddi a datblygu ein gweithlu. Mae ein Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal ym Mangor wedi cael ei hadeiladu’n arbennig i’n pwrpas, ac yno fe fyddwn yn darparu llwybr gyrfa proffesiynol tymor hir mewn gofal i’n holl Weithwyr Gofal. Fe fyddwn ni’n darparu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i chi, fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth fyddwch eu hangen i ddarparu’r gofal gorau sydd modd.

Hyfforddi a Datblygu Gweithwyr Gofal

Fe fydd pob un o’n gweithwyr gofal yn cwblhau rhaglen hyfforddi tu mewn i’n sefydliad ni. Mae’r rhaglen yn darparu’r holl hyfforddiant mae’n rhaid ei gael i gyrraedd y safonau gofynnol cenedlaethol, a hyfforddiant ychwanegol, arbenigol, sy’n berthnasol i’ch rôl chi. Fe fyddwn ni’n talu i chi am fynd i’r cyfan o’r hyfforddiant, ac yn talu cost yr holl hyfforddiant y byddwch yn ei gael.

Hyfforddiant a Datblygiad Wedi’i Gysylltu Gyda QCF

Mae’r holl hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn ymwneud gyda’r swydd, ac o’r math diweddaraf sydd ar gael. Mae datblygu eich sgiliau mewn gofal yn bwysig iawn ac mae wedi’i gysylltu gyda’r rhaglen Diploma mewn Gofal QCF rydym yn ei chynnig fel rhan o lwybr gyrfa proffesiynol mewn gofal. Mae ein rhaglen hyfforddi’n cynnwys:

  • Hyfforddiant Cyflwyniad i’r Gwaith a Hyfforddiant Ymarferol mewn Gofal, mewn Swyddfa
  • Cyflwyniad i’r Gwaith, yn y Gymuned
  • Dilyn a Sylwi ar Weithwyr eraill, yn y Gymuned
  • Pasbort Codi a Thrin Cymru Gyfan
  • Materion Sylfaenol Gofal, yn cynnwys rôl y gweithiwr gofal
  • Cyfathrebu, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chanolbwyntio ar y person wrth weithredu
  • POVA
  • Amddiffyn Plant
  • Gofal Personol
  • Rheoli Haint
  • Cymorth Cyntaf
  • Diogelwch Bwyd Sylfaenol
  • Ymwybyddiaeth o Foddion
  • Iechyd a diogelwch
  • Ymwybyddiaeth tân
  • Ymwybyddiaeth dementia
  • Ymwybyddiaeth cathetr and stoma
  • Gofal a diogelwch Peg
  • Urddas a Pharch
  • Gofal Lliniarol

Cadet Gweithiwr Gofal

Rydym ni’n parhau i ddarparu cyfle, cymorth a chefnogaeth i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal i weithio mewn sefyllfa broffesiynol, gan ddarparu llwybr gyrfa tymor hir mewn gwaith gofal i bobl 18-24 mlwydd oed, trwy ein Rhaglen Cadét Gweithiwr Gofal sy’n llwyddiannus ac yn defnyddio syniadau newydd.

I gael mwy o wybodaeth am sut i ymuno yn y cynllun hwn, os gwelwch yn dda ffoniwch 01248 679922 neu ebostio craig@cymorthllaw.org