
"We have had great help since my husbands return from hospital and I have nothing but praise for the carers who come here. We value their help understanding and friendship very much.
" Service user’s wife, Caernarfon
Gwasanaethau
Fe fydd y gwasanaethau gofal rydym ni’n eu darparu’n rhoi’r tawelwch meddwl i chi y bydd rywun yno gydol yr amser i gynorthwyo pan fydd fwyaf o angen amdano.
Fe fydd ein gwasanaethau’n cael eu darparu i Oedolion ac i Blant, ac yn gallu amrywio o ymweliadau gofal am gyfnod byr, siopa neu alw i mewn i gadw cwmni, hyd at becynnau gofal mwy cymhleth, sy’n gallu parhau am 24 awr y dydd, 7 diwrnod o’r wythnos.
Gofal Cartref
Mae Gwasanaeth Gofal Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth gofal proffesiynol sy’n cael ei ddarparu i oedolion ac i blant yn eu cartrefi eu hunain. Fe fydd y gwasanaeth hwn, sy’n cael ei ddarparu gan Weithwyr Gofal proffesiynol, yn golygu bod yr un sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael gwneud beth bynnag fedrant ar gyfer eu hunain, ac yn darparu cymorth gyda’r tasgau neu weithgareddau eraill bob dydd y byddwn yn aml yn eu cymryd yn ganiataol.
Dysgu mwy
Gofal Iechyd yn y Cartref
Mae Gofal Iechyd yn y Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth proffesiynol wedi’i arwain gan nyrs, sy’n cael ei ddarparu i oedolion a phlant yn eu cartrefi eu hunain, gan dîm o Gynorthwywyr Gofal Iechyd.
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu popeth sy’n hanfodol ar gyfer gofal, o gefnogi anghenion sylfaenol iawn y cleient hyd at gyflawni’r tasgau a’r dyletswyddau hynny mae angen gwasanaeth gofal arbennig ar eu cyfer.