Amdanom Ni

Ein Hanes Ni

Asiantaeth Gofal Cartref deuluol wedi’i lleoli ym Mangor, Gogledd Orllewin Cymru, yw Cymorth Llaw.

Rydym yn darparu gwasanaeth wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer ystod eang o bobl ag anghenion beunyddiol gwahanol.

Mae gennym hanes o weithio’n galed, ynghyd ag ymrwymiad parhaus i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.

Sefydlwyd y cwmni gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, Janice Hogg, a arferai fod yn nyrs, gan ddechrau mewn swyddfa fechan yn ein cartref gydag ond ychydig o Weithwyr Gofal.

Erbyn hyn, rydym wedi ein lleoli mewn Prif Swyddfa a Chanolfan Hyfforddi Gofalwyr Iechyd bwrpasol ym Mangor, Gwynedd.  Mae’r cwmni wedi tyfu mewn maint a statws ac rydym bellach yn un o ddarparwyr gwasanaethau gofal cartref mwyaf a mwyaf adnabyddus yr ardal.

Rydym wedi ennill statws Buddsoddwr mewn Pobl ac rydym bellach wedi cofrestru fel asiantaeth nyrsio sy’n ddigon ffodus i allu cyflogi gweithlu mawr o Weithwyr Gofal proffesiynol sy’n darparu llawer o oriau o ofal bob wythnos yn yr ardal.

Drwy ein hymrwymiad parhaus i ddatblygu ein gweithlu a thrwy fabwysiadu agwedd at ofal sy’n rhoi lle canolog i’r defnyddiwr gwasanaeth ym mhob peth a wnawn, dros amser rydym wedi ennill enw arbennig o dda i’n hunain ar sail y gwasanaethau gofal cartref rydym yn eu darparu ar gyfer pobl yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Dros y blynyddoedd, mae ein henw da wedi cynyddu i’r fath raddau nes bod llawer o weithwyr proffesiynol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymddiried yn ein gallu i sicrhau rhagoriaeth mewn gofal dro ar ôl tro.

Yn wir, mae’r ystod o wasanaethau a ddarperir gennym erbyn hyn yn brawf pellach o faint rydym wedi datblygu mewn cyfnod cymharol fyr.

Heddiw, rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o bobl yn y diwydiant Iechyd a Gofal drwy ein gwasanaeth Gofal Iechyd yn y Cartref pwrpasol.

Mae’r gwasanaeth hwn, sy’n cael ei ddarparu i oedolion ac i blant ac sy’n rhoi gofal arbenigol i bobl ag anghenion mwy cymhleth, yn dangos cyn belled rydym wedi dod ers y dyddiau cynnar pan oeddem yn rhedeg cwmni gofal o ystafell gefn yn ein cartref.

Mae ein hanes yn un rydym yn falch iawn o allu ei hadrodd a’r un yw ein nod yn awr ag yr oedd yn y dechrau ac felly y bydd hi am byth,

sef rhoi Gofal Cartref o’r ansawdd rydych yn ei haeddu i chi a pharhau i Wneud Gwahaniaeth i Fywydau Pobl.