Gofal Dementia

Gofal Dementia Proffesiynol yn eich Cartref

Mae Gofal Dementia yn y Cartref Cymorth Llaw yn darparu gwasanaeth penodol a chyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl sy’n dioddef o ddementia.

Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan ein tîm o Weithwyr Gofal Cartref proffesiynol ac mae’n caniatáu i bobl sydd â dementia dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt ar yr un pryd ag aros yn amgylchedd cyfarwydd eu cartref cyn hired ag sy’n bosibl.

Mae’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn hybu mwy o annibyniaeth drwy ddull gweithredu ‘Hanes Bywyd’ arloesol sy’n dangos dealltwriaeth lwyr o’r sawl sy’n cael gofal.

Mae’r dull hwn o ganolbwyntio ar yr unigolyn yng nghyswllt gofal dementia yn rhoi’r defnyddiwr gwasanaeth wrth galon yr holl waith cynllunio gwasanaeth ac mae’n caniatáu i’n Gweithwyr Gofal gyflawni’r holl ddyletswyddau gofal angenrheidiol ar yr un pryd â galluogi’r cleientiaid i wneud yr hyn y maen nhw’n gallu ei wneud ar eu rhan eu hunain, gan eu helpu gyda thasgau sydd o bosibl yn anodd iddyn nhw, ar yr un pryd â chynnwys yr unigolion mewn gweithgareddau sy’n ystyrlon iddyn nhw.

Caiff ein dull gweithredu yng nghyswllt gofal dementia yn y cartref ei gyflawni o safbwynt y cleient ac mae’n caniatáu i’r defnyddwyr gwasanaeth aros yn weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae ein gwasanaeth yn hybu hyder, annibyniaeth a hunanwerth, sydd, dros gyfnod o amser, wedi dangos ei fod yn arafu’r gyfradd dirywio.

Mae ein holl Weithwyr Gofal proffesiynol yn cael hyfforddiant mewn dementia fel rhan o raglen datblygu sgiliau ein cwmni. Mae hyn yn caniatáu i’n Gweithwyr Gofal ddeall yr unigolion yn well a sut gall dementia fel cyflwr fod yn effeithio arnyn nhw, o’u safbwynt personol.

Os ydych chi’n teimlo y byddai rhywun rydych chi’n ei garu yn gallu elwa o’n Gwasanaeth Gofal Dementia yn y Cartref, ffoniwch ni heddiw a’n helpu ni i wneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi.