"Our lives have been made more comfortable and bearable as a result of the carer’s visits on a regular basis. Indeed some have become good friends as well as carers. Suggestions for improvements are more difficult as their care and attention rivals those of District Nurses.
" Service family user, Bangor
Gofal Iechyd yn y Cartref
Mae Gofal Iechyd yn y Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth proffesiynol wedi’i arwain gan nyrs, sy’n cael ei ddarparu i oedolion a phlant yn eu cartrefi eu hunain, gan dîm o Gynorthwywyr Gofal Iechyd.
Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu popeth sy’n hanfodol ar gyfer gofal, o gefnogi anghenion sylfaenol iawn y cleient hyd at gyflawni’r tasgau a’r dyletswyddau hynny mae angen gwasanaeth gofal arbennig ar eu cyfer.
Mae’r holl staff sy’n gweithio i’r gwasanaeth hwn wedi cael hyfforddiant arbenigol ac yn gymwys i wneud y gwaith sydd ei angen, i ateb eich angen chi am ofal.
Gwaith y Cynorthwyydd Gofal Iechyd yw gofalu a chynorthwyo cleient y gallai fod ag anghenion mwy cymhleth ac y gallai fod angen cefnogaeth ychwanegol dros gyfnod hirach o amser. Fel gyda’r gwasanaethau eraill y byddwn yn eu darparu, fe fydd ein staff Gynorthwywyr Gofal Iechyd yn cael eu dewis yn ofalus i gyd-fynd gyda chleientiaid unigol, yn ôl y sgiliau a’r profiadau sydd ganddynt.
Fe fyddwn yn cynnig gofal iechyd yn y cartref yn y meysydd yma:
- Gofal Dibyniaeth Uchel yn y Cartref
- Gofal i bobl gyda chyflyrau Niwrolegol
- Gofal i bobl gydag Anafiadau i’r Cefn
- Gofal i bobl sydd wedi Cael Niwed i’r Ymennydd
- Gofal Arbenigol i Oedolion ifanc ac i Blant
- Gofal Lliniarol
Os ydych chi’n credu y byddech chi, neu rywun rydych chi’n ei garu, yn elwa o’n gwasanaethau gofal, ffoniwch ni heddiw ar 01248 679922 a gadewch i ni wneud gwahaniaeth i’ch bywyd.
Yn ôl i wasanaethau Cymorth Llaw