Gwneud Gwahaniaeth i Fywydau Pobl

Yn Cymorth Llaw Cyf. rydym ni’n falch iawn o’r gwasanaethau Gofal Cartref a Gofal Iechyd yn y Cartref y byddwn yn eu darparu ym mhob rhan o Ogledd-orllewin Cymru. Rydym ni’n gwmni teuluol, gyda llawer o flynyddoedd o brofiad o ddarparu gofal yn y cartref. Mae ein gwasanaeth ni’n caniatáu i Oedolion a Phlant gyda gwahanol anghenion fyw yn eu cartrefi a bod yn annibynnol am gymaint o amser ag y bo modd.

Fe fydd y gofal rydym ni’n ei ddarparu yn rhoi’r tawelwch meddwl i chi a’r rhai sy’n agos atoch y bydd rywun yno gydol yr amser i gynorthwyo, i gefnogi ac i ofalu amdanoch pan fyddwch fwyaf ei angen. Rydym ni’n falch o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i deilwra i ateb eich anghenion unigol chi, am gost resymol ac ar yr adeg o’r dydd sydd orau i chi.

Rydym ni wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) fel Darparydd Gofal Cartref ac Asiantaeth Nyrsio, yn aelod o’r UKHCA a hefyd wedi cael ein cydnabod fel Buddsoddwr mewn Pobl.

Rydym ni wedi cofrestru gyda’r CSSIW i ddarparu gwasanaethau gofal i:

  • Bobl gyda Dementia
  • Pobl gydag Anabledd Corfforol
  • Pobl sydd wedi Colli Defnydd o Synhwyrau neu gyda Nam ar y Synhwyrau
  • Pobl gydag Anabledd Dysgu
  • Pobl gyda Salwch Angheuol
  • Plant a’u teuluoedd

Ein rhif cofrestru CSSIW ni yw 05176690

Gofal Cartref

Mae Gwasanaeth Gofal Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth gofal proffesiynol sy’n cael ei ddarparu i oedolion ac i blant yn eu cartrefi eu hunain. Fe fydd y gwasanaeth hwn, sy’n cael ei  ddarparu gan Weithwyr Gofal proffesiynol, yn golygu bod yr un sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael gwneud beth bynnag fedrant ar gyfer eu hunain, ac yn darparu cymorth gyda’r tasgau neu weithgareddau eraill bob dydd y byddwn yn aml yn eu cymryd yn ganiataol.

Dysgu mwy

Gofal Iechyd yn y Cartref

Mae Gofal Iechyd yn y Cartref Cymorth Llaw yn wasanaeth proffesiynol wedi’i arwain gan nyrs, sy’n cael ei ddarparu i oedolion a phlant yn eu cartrefi eu hunain, gan dîm o Gynorthwywyr Gofal Iechyd. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu popeth sy’n hanfodol ar gyfer gofal, o gefnogi anghenion sylfaenol iawn y cleient hyd at gyflawni’r tasgau a’r dyletswyddau hynny mae angen gwasanaeth gofal arbennig ar eu cyfer.

Dysgu mwy

Gwasanaeth CRB

Mae Cymorth Llaw wedi cofrestru fel Corff Ymbarél sy’n darparu mynediad ar gyfer llawer o gwmnïau at Wasanaeth Datgelu’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).

Dysgu mwy