Newyddion

Un o ofalwyr Cymorth Llaw am gerdded i fyny mynydd Kilimanjaro ar gyfer Child Reach

Y mis Awst yma, mae Heini Davis, Gweithwraig Gofal a myfyrwraig Athroniaeth yn St Andrews, am geisio cerdded i fyny Mynydd Kilimanjaro yn Tanzania ar gyfer Child Reach International. Mae Child Reach yn elusen sy’n arbenigo mewn gwella mynediad i blant at Iechyd, Addysg a Hawliau a Diogelwch. Pob lwc Heini, oddi wrth bawb yn Cymorth Llaw.