
Ein Gwasanaeth
Mae Cymorth Llaw yn darparu gwasanaeth ‘yn y cartref’ i gwrdd ag anghenion unigol y cwsmer. Gallai fod yn chi eich hun neu’n rywun sy’n agos atoch. Nod ein gwasanaeth yw hybu annibyniaeth bob amser a chadw urddas person, gan roi cymorth beunyddiol fel y gallwch chi neu rywun sy’n agos atoch dderbyn gofal yn y cartref am gyn hired â phosibl.
Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofal i grŵp amrywiol o oedolion ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i deilwrio i anghenion y cwsmer unigol, drwy wasanaeth sy’n ddibynadwy, sensitif, cefnogol, cwbl gyfrinachol ac ymatebol – rydym ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos.
Yn gyntaf oll edrychwn ar anghenion gofal y cwsmer drwy wneud asesiad gofal. Bydd hwn yn cael ei wneud gan un o’n rheolwyr ardal sydd wedi eu hyfforddi’n broffesiynol. Rydym yn edrych ar anghenion yr unigolyn ac yn cyfateb yr anghenion gofal i sgiliau a nodweddion cymeriad ein gofalwyr.
Mae’r gwasanaeth a ddarparwn yn Bersonol ac Ymarferol ac yn cynnwys cymorth gyda:
Gofal Personol
Ymweliadau Gwirio
Siopa
Gwarchod yn y cartref
Dyletswydd Nos
Tasgau Domestig
Mae’r math o becynnau gofal a ddarparwn yn dibynnu ar anghenion y person sy’n derbyn gofal. Mae’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaeth rhagorol yn amrywio, ond medrant fod yn:
-
Pobl hŷn
-
Plant
-
Pobl gydag anawsterau corfforol
-
Pobl gyda salwch cronig
-
Pobl sydd efallai’n derfynol wael
-
Pobl sydd efallai’n mynd drwy gyfnod o adferiad iechyd
-
Pobl sy’n dioddef o ham ar eu synhwyrau
Gall hyd a pharhad y gofal a ddarparwn hefyd amrywio. Rydym yn darparu Gofal Tymor Byr, Gofal Cwmpeini ac Adferiad Iechyd a Gofal i Rai sy’n Ddibynnol Iawn i rai gydag anghenion mwy dwys.
Mae parhad y gofal yn cynnwys ymweliadau Dyddiol pob awr yn ogystal ag ymweliadau Dyletswydd Nos sydd wedi eu rhannu yn:
Nos Effro – gwasanaeth aros dros nos i rai sydd angen sylw’n aml arnynt yn ystod y nos.
Nos Cysgu – gwasanaeth aros dros nos i rai sydd angen cael eu deffro hyd at 3 gwaith yn ystod y nos.
Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth, ffoniwch ein prif swyddfa ar 01248 679922.



