Dewis a Hyfforddi Staff

Mae gan Cymorth Llaw enw rhagorol am y gwasanaethau y mae’n eu darparu yng Ngogledd Orllewin Cymru. Rydym yn parhau i fuddsoddi’n drwm mewn hyfforddi a datblygu’r gweithlu i sicrhau bod y safonau proffesiynol uchaf yn cael eu cwrdd bob amser. Mae hyn yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau iawn i’n staff fel y medrant wynebu sialensau’r gwaith gofal.

Rydym yn bur gaeth o ran pwy a gyflogwn. Rydym yn dewis y bobl leol orau i ddarparu gwasanaeth i bobl leol. Mae ein staff yn gweithio i god ymddygiad caeth i gwrdd â’r safonau a osodir gan ein corff llywodraethu, Arolygiaeth Safonau Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac mae’r staff i gyd yn cael eu harchwilio yn erbyn y Swyddfa Cofnodion Troseddol genedlaethol cyn eu cyflogi.

Mae ein gofalwyr wedi eu hyfforddi yn ôl y safonau a osodir gan yr Arolygiaeth Gofal ac mae gan Cymorth Llaw ganolfan hyfforddi sydd wedi’i chodi’n bwrpasol i roi cyfle i’n gweithlu weithio gyda hyfforddwyr proffesiynol a chyfarpar cymorth i fyw a ddefnyddir yn ddyddiol gan ofalwyr yng nghartrefi ein cwsmeriaid. Hefyd, mae Cymorth Llaw yn cynnig diploma NVQ mewn Gofal i’n gofalwyr fel rhan o ymdrech barhaus i gynnal rhagoriaeth a phroffesiynoldeb.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ofal gyda Cymorth Llaw, cliciwch yma ( careers@cymorthllaw.org) am ffurflen gais neu ffoniwch y ddesg recriwtio ar 01248 679922.

 

LLawriwytho ffurflen yn fyma

 

 

Follow us on Twitter