Recriwtio

Fe fyddwn ni yn Cymorth Llaw yn ofalus iawn sut byddwn yn cyflogi Gweithwyr Gofal.

Dim ond y bobl leol orau fyddwn ni’n eu cyflogi, pobl sy’n rhannu ein gwerthoedd ni ac yn credu, fel ni, mewn gofal. Fe fyddwn ni’n darparu llwybr gyrfa tymor hir i ymgeiswyr llwyddiannus, sy’n cynnwys incwm cyson ac oriau gwaith hyblyg.

Mae modd cael gwybod am swyddi sydd ar gael ar ein gwefan, trwy ‘twitter feed’ a’n tudalen Facebook, yn ogystal â thrwy gysylltiadau eraill gyda’r cyfryngau.

Mae modd gwneud cais trwy ffonio’r ddesg recriwtio ar 01248 679922 i gael mwy o wybodaeth.

Swyddi Diweddaraf ar Gael

Swydd Wedi’i phostio ar
Gweithwyr Gofal Cartref i ddarparu gofal ym Mhwllheli, Llanbedrog ac Abersoch 02/08/2012