Pam Ein Dewis Ni

Mae gennym brofiad helaeth ac rydym yn wasanaeth lleol sy’n ymfalchïo mewn cyflwyno gofal safonol ledled Gogledd Orllewin Cymru, gan roi sylw canolog i’r unigolyn. Rydym yn gwneud hyn am gost resymol ac ar adeg o’r dydd sy’n gweddu orau i chi.

 ‘Cyflogi’r bobl leol orau i ddarparu’r gofal lleol gorau’

Rydym yn cyflogi pobl leol, broffesiynol sydd â sgiliau amrywiol a niferus a phrofiad eang o ddiwallu eich anghenion gofal.

Mae ein staff i gyd yn cwblhau proses ddethol a dilysu drwyadl cyn i ni eu cyflogi, gan gynnwys cwblhau archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

‘Ymrwymiad i Ragoriaeth mewn Gofal’

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu gwasanaeth gofal proffesiynol i chi, a gyflwynir gan weithlu dwyieithog sydd wedi’i hyfforddi i safon uchel ac sy’n llawn cymhelliant.

Datblygu’r Gweithlu – Rydym yn buddsoddi llawer iawn mewn hyfforddi, datblygu a chefnogi ein Gweithwyr Gofal. Heb unrhyw gost i’n staff, rydym yn darparu i’n Gweithwyr Gofal yr hyfforddiant, y wybodaeth a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen er mwyn cyflwyno gofal cartref o safon uchel.

Amgylchedd Dysgu – Mae ein hyfforddiant ni i gyd yn cael ei gynnal o’n Canolfan Hyfforddi Gweithwyr Gofal sydd wedi’i hadeiladu i bwrpas ac wedi ennill gwobrau. Mae wedi’i lleoli ar Barc Busnes Parc Menai ym Mangor, Gwynedd. Mae’r cyfleuster hwn yn gartref hefyd i’n rhaglen Gweithwyr Gofal Ifanc hynod lwyddiannus – Cadetiaid Gofal.

Arwain o’r blaen – Rydym yn cyflogi Rheolwyr Gwasanaethau Gofal sy’n hynod weithgar yn y gymuned ac sy’n gwerthuso eich anghenion gofal yn gyson. Mae ein rheolwyr yn hynod brofiadol, yn wybodus ac yn deall gofynion unigol yn llawn wrth gynllunio eich pecyn gofal pwrpasol.

Gallu Gofalu – Ledled y rhanbarth, rydym yn cyflogi gweithlu o fwy na 200 o Weithwyr Gofal brwd sydd wedi derbyn hyfforddiant i safon uchel, ac rydym yn parhau i ehangu. Rydym yn gallu cynnig gyrfa tymor hir i’n staff mewn gwaith Gofal Cymdeithasol, gyda’r oriau gwaith maent eu hangen, drwy gyflogaeth sy’n hyblyg ac yn barhaol – gan roi i chi’r gwasanaeth cysondeb gofal y mae arnoch ei angen.

‘Enw da am ansawdd a dibynadwyedd’

Rydym yn cael ein cydnabod fel arweinwyr ym maes Gofal yn y Cartref ledled Gogledd Cymru ac yn cael adroddiadau arolygu eithriadol dda yn gyson.

Rydym yn ddarparwr gwasanaeth cymeradwy i Awdurdodau Lleol Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy ac i Fyrddau Iechyd Lleol.  Byddwn yn gweithio’n agos â llawer o gomisiynwyr gwasanaethau gofal eraill, gan gyflwyno llawer o oriau o ofal ledled y rhanbarth. Rydym yn darparu gwasanaethau i gasgliad mawr, amrywiol ac eang o gleientiaid preifat drwy gyfrwng gwasanaeth sy’n hynod ymatebol ac yn benodol i angen.

Rydym wedi cofrestru gydag AGGCC fel Asiantaeth Gofal Cartref a Nyrsio. Rydym yn aelod o UKHCA ac rydym yn cael ein cydnabod hefyd fel Buddsoddwyr mewn Pobl.

Ffoniwch ni heddiw ar 01248 679922